Croeso i BEACON

Bydd BEACON yn helpu busnesau Cymru i ddatblygu ffyrdd newydd o droi cnydau megis rhygwellt, ceirch a miscanthus (hesg eliffant) yn gynnyrch fferyllol, cemegol, tanwydd a chosmetig.

Caiff gwaith BEACON ei arwain gan Brifysgol Aberystwyth mewn cydweithrediad â phartneriaid ym Mhrifysgolion Bangor ac Abertawe. Mae Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop wedi rhoi £8 miliwn ato drwy Lywodraeth Cymru.

Bydd BEACON yn adeiladu ar ymchwil sydd eisoes ar y gweill yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth i gynhyrchu tanwyddau o gnydau ynni megis porfeydd sy’n uchel o ran siwgr fel rhyg. Bydd hefyd yn galluogi Prifysgol Abertawe i ganolbwyntio ar ddatblygu eu harbenigedd mewn defnyddio bacteria a ffyngau i dreulio, neu eplesu planhigion o fewn y broses bioburo.

Bydd Prifysgol Bangor yn adeiladu ar waith i ddatblygu deunyddiau newydd o blanhigion y gellir eu defnyddio i ddatblygu cynhyrchion arloesol, ar ôl darganfod yn ddiweddar y gellir defnyddio cyfansoddion a geir mewn rhai planhigion lleol i reoli problemau fel malltod tatws.

Rydym yn ceisio:

  • Sefydlu cysylltiadau rhwng y gymuned fusnes ac academia yng Nghymru
  • Datblygu cynhyrchion a phrosesau newydd a fydd yn cefnogi twf economaidd
  • Creu swyddi sgiliau uchel ym maes biodechnoleg gwyrdd
  • Cefnogi buddsoddi o’r tu allan
  • Hyrwyddo rhagoriaeth mewn gwyddoniaeth o Gymru

Latest News

Plants to Products (P2P) Final Showcase

Dr Joe Gallagher (left ) & Dr Mike Morris (right)

Dr Joe Gallagher, Dr Mike Morris...read on

The Power of Yeast!

 

Josie Parker and Claire Price showed off the power of yeast as part of the Family...read on

Natural Product Network Conference (NPRONET)

Professor Diane Kelly was an invited speaker at the latest NPRONET conference which...read on

Twitter