Gweithgareddau
Mae gan BEACON nifer o weithgareddau ymchwil strategol craidd ac mae’r rhain yn cynnwys mentrau sy’n canolbwyntio ar y canlynol:
- Deall sut i brosesu biomas gwlyb yn effeithlon gan ddefnyddio technolegau mecanyddol ffisegol-gemegol
- Trawsnewid biomas lignoselwlos yn fiodanwyddau
- Trawsnewid biomas gwlyb yn gemegolion llwyfan a mân gemegolion
- Datblygu a gwella ensymau a systemau microbaidd ar gyfer creu cynhyrchion fel mân gemegolion a thanwyddau cludiant
- Unigo molecylau sy’n fasnachol bwysig gan ddefnyddio technolegau pilen a hylifau uwchgritigol
- Cynhyrchu bioblastigau o fiomas
- Cynhyrchu pecynnau sy’n seiliedig ar fio o fiomas
- Datblygu methodolegau ‘Diwedd Oes’ sy’n gysylltiedig â phyrolysis a chynhyrchu biogolosg a bio-olew
- Gwerthuso llwybrau prosesu o fiomas i gynhyrchion a datblygu’r modelu economaidd cysylltiedig
Biomas
Mae’r deunydd hwn yn deillio o organebau byw. Yn ein hachos ni, mae’r prif ffynonellau biomas o blanhigion. Mae enghreifftiau’n cynnwys rhygwellt parhaol, meillion, miscanthus, ceirch, ac artisiog Jerwsalem. Mae planhigion yn trawsnewid golau’r haul yn amrywiaeth o folecylau fel seliwlos, lignin a siwgrau syml. Nod ein prosiect yw unigo’r rhain a’u trawsnewid yn gynhyrchion gwerth uwch.
Prosesu Cynradd
Mewn llawer o achosion, ni allwn ddefnyddio’r planhigion yn uniongyrchol, felly er mwyn gwella ein gallu i fanteisio ar y molecylau a’r cyfansoddion allweddol hynny, rhaid defnyddio nifer o brosesau. Gall y cam cychwynnol ddefnyddio dulliau mecanyddol a ffisegol-gemegol fel: torri, morthwylio, peledu, pyrolysis a ffrwydrad ager.
Prosesu Eilaidd
Pan fydd y prosesu cychwynnol wedi digwydd, gallwn ddefnyddio dulliau biolegol a chemegol i drawsnewid y deunydd crai yn rhywbeth sydd â gwerth uwch. Mewn llawer o achosion, bydd ensymau a micro-organebau yn cael eu defnyddio i helpu i leihau molecylau cymhleth o’r planhigion yn flociau adeiladu syml fel siwgrau. Wedyn, caiff y rhain eu trawsnewid yn gemegolion sy’n defnyddio micro-organebau fel bacteria, burumau a ffyngau, er enghraifft. Wedyn, mae angen datblygu dulliau i unigo’r molecylau hynny. Dyma ble caiff technolegau fel echdynnu hylif uwchgritigol, allgyrchu a systemau pilen eu defnyddio i helpu i buro’r cynhyrchion a ddymunir.
Trawsnewid i’r canlynol:
Bioethanol, Biobutanol, Olewau Planhigion, Gwrthocsidyddion, Sorbitol…..
Cynhyrchion:
Gellir gwneud llawer o gynhyrchion yr ydym yn eu gweld o’n cwmpas o gyfansoddion yn tarddu o blanhigion, e.e.
- Bio-gyfansoddion
- Bio-olew
- Golosg, golosg actifedig
- Emylsyddion
- Ychwanegion bwyd
- Maethroddwyr
- Plastigau
- Proteinau
- Gwlychwyr (glanedyddion)
- Tanwyddau cludiant