Supercritical Fluids - Applications & Opportunities 2nd UK Conference

  • Beacon Event

    Hylifau Uwch-Gritigol – Defnyddiau a Chyfleoedd Ail Gynhadledd y DU

    Dydd Sul, 20fed Gorffennaf 2014

    Hylifau Uwch-Gritigol – Defnyddiau a Chyfleoedd Ail Gynhadledd y DU

    Bellach, mae deng mlynedd wedi mynd heibio ers cynnal y gynhadledd gyntaf yn y DU ar hylifau uwch-gritigol, ym Mhrifysgol Birmingham yn 2004, ac mae llawer o ddefnyddiau newydd wedi’u datblygu ers y digwyddiad hwn. Eleni hefyd, rydym yn dathlu 25 mlwyddiant y Ganolfan Fiogyfansoddion ym Mhrifysgol Bangor, felly rydym yn falch o gyhoeddi y byddwn yn cynnal cynhadledd ar hylifau uwch-gritigol yng Ngorffennaf 2014.
    Bydd y gynhadledd hon yn dod ag ymchwilwyr academaidd a diwydiant ynghyd er mwy hyrwyddo defnydd hylifau uwch-gritigol a chanfod cyfleoedd newydd i ddefnyddio technolegau cymharol lân a gwyrdd yn lle prosesau traddodiadol sy’n seiliedig ar doddyddion.
    Bydd i’r rhaglen bedair thema:

    • Echdynnu a ffracsiynu gan ddefnyddio hylifau uwch-gritigol.
    • Adweithiau mewn hylifau uwch-gritigol.
    • Creu gronynnau.
    • Defnyddiau technolegol ar hylifau uwch-gritigol, yn cynnwys glanhau, lliwio a thrwytho.
    •  

    Bydd cofrestru a galwad ar agor nawr.

    http://www.bc.bangor.ac.uk/scf-conference