Prifysgol Aberystwyth
Cyfleuster Gwaith Peilot IBERS Gogerddan, Prifysgol Aberystwyth
Mae cyfleuster bioburo BEACON a adeiladwyd ar gampws Gogerddan ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cynnwys gwaith prosesu peilot amlborthiant plygio-a-chwarae hyblyg. Mae’r uned yn gartref i ystod o offer allweddol, cyfleusterau ac arbenigedd cysylltiedig i alluogi partneriaid academaidd a diwydiannol i ddatblygu ac arddangos prosesau uwchraddio, gan droi ymchwil labordy yn gymwysiadau diwydiannol sy’n economaidd hyfyw.
Mae’r cyfleuster yn cynnwys prif ardal brosesu a labordy peilot prosesu eilaidd sydd wedi’u lleoli ar gampws Gogerddan IBERS Prifysgol Aberystwyth, o fewn pellter cerdded agos o ganolfan Ffenomeg newydd IBERS a’r prif labordy a chyfleusterau ymchwil bridio porthiant.
Nodau
- Darparu amgylchedd hyblyg lle y gellir cymryd biomas planhigion o brosesau mecanyddol a thermogemegol trwy fiodrawsnewid i nwyddau fel tanwyddau cludiant, cemegau llwyfan a chemegau coeth.
- Pontio’r bwlch rhwng y labordy ac ymchwil arddangos a chael effaith ar y sector masnachol ag ymchwil a datblygu cydweithredol.
- Datblygu prosesau, technolegau a nwyddau o fiomas planhigion sy’n darparu dewisiadau eraill i nwyddau a wneir o olew, gan gael effaith gadarnhaol ar newid yn yr hinsawdd.
- Datblygu rhwydwaith cynyddol o gydweithredwyr diwydiannol ac annog ymchwil a datblygu technegol rhwng y byd academaidd a busnes ac o un busnes i’r llall.
- Creu ac ymelwa ar eiddo deallusol ar y cyd â’n partneriaid.
- Darparu cymorth asesu cylch bywyd i ddeall yn well y llwybrau mwyaf economaidd i nwyddau newydd a phresennol.
Arbenigedd / Cryfderau
- Ymchwil sylfaenol a strategol mewn bioleg planhigion.
- Microbioleg a biodechnoleg.
- Dadansoddi cemegol o fiomas.
- Prosesu cynradd biomas fel rhygwellt, miscanthus, meillion a cheirch.
- Biodrawsnewid rhygwellt yn danwyddau cludiant a chemegau llwyfan.
- Modelu economaidd a gwerthuso prosesau.