Plants as Providers of Fine Chemicals
-
Planhigion fel Darparwyr Cemegau Mân
Dydd Mercher, 29fed Auguain 2012
Ysgol Cemeg, Prifysgol Bangor
Prif anerchiad gan: Yr Athro Monique Simmons FRES, Dirprwy Geidwad Labordy Jodrell a Phennaeth Defnyddio Planhigion yn Gynaliadwy, Gerddi Brenhinol Botaneg, Kew.
Bydd y gynhadledd hon yn canolbwyntio ar ddatblygiadau diweddar ym maes cemeg planhigion. Rhoddir sylw arbennig i’r ffordd y defnyddir echdynion planhigion neu gyfansoddion wedi’u puro fel cyfryngau i amddiffyn planhigion, cynhwysion mewn cosmetigau, bwydydd llesol, meddyginiaethau a pholymerau a phecynnau bioseiliedig. Bydd y siaradwyr yn y gynhadledd hon yn arbenigwyr o lywodraeth, diwydiant ac academia. Gwahoddir ymchwilwyr sy’n gweithio ym maes cemeg planhigion i ddod i’r achlysur hynod berthnasol hwn.
Gwahoddir ceisiadau i roi cyflwyniadau llafar a phoster; cysylltwch, os gwelwch yn dda, â Dr. Vera Thoss: plants@bangor.ac.uk
Pecynnau cynrychiolwyr o: £45
Dyddiad cau i gofrestru: 15 Awst 2012
www.bangor.ac.uk/chemistry/plants