Pwy allwn i helpu?
Mae BEACON yn cynnig mynediad i ganolfan ymchwil, arbenigedd a gwybodaeth prifysgolion yng Nghymru ar gyfer busnesau sydd â buddiannau yn y sector bioburo.
Gallwn helpu:
- Cwmnïau yng Nghymru yn y diwydiannau adeiladu, pecynnu a gweithgynhyrchu trwy ddatblygu deunyddiau biogyfansawdd newydd
- Y diwydiant biowyddoniaeth yng Nghymru – er enghraifft, datblygu systemau a thechnolegau microbaidd neu ensymau newydd ar gyfer prosesu biomas
- Y diwydiant cemegol trwy ddarparu ffynonellau newydd o gemegolion ‘gwyrdd’
- Cynhyrchwyr tanwydd trwy gynnig tanwyddau ‘gwyrdd’, sy’n effeithio ar y Rhwymedigaeth Tanwydd Cludiant Adnewyddadwy (RTFO) a lleihau allyriadau carbon
- Cymunedau gwledig trwy ddefnyddio technoleg bioburo ar gyfer prosesu cnydau nad ydynt yn fwyd
Mae hyn yn cwmpasu ystod enfawr o fusnesau mewn meysydd mor amrywiol â’r canlynol:
- Agrocemegolion
- Bio Danwyddau
- Caenau ac Adlynion
- Deunydd Cosmetig a Phersonol
- Gofal
- Olewau Hanfodol
- Ireidiau
- Maethroddwyr
- Deunydd Fferyllol
- Polymerau Arbennig
- Syrffactyddion
- Dwr a Thriniaeth Elifion
A thu hwnt…….
Am fwy o wybodaeth cliciwch yma