Beth yw BEACON?
Beth yw BEACON?
Caiff BEACON ei arwain gan Brifysgol Aberystwyth mewn cydweithrediad â phartneriaid ym Mhrifysgolion Bangor ac Abertawe. Mae Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop wedi rhoi £10.6 miliwn ato drwy Lywodraeth Cymru.
Bydd BEACON yn adeiladu ar ymchwil sydd eisoes ar y gweill yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth i gynhyrchu tanwyddau o gnydau ynni fel glaswelltau sy’n cynnwys llawer o siwgr fel rhyg.
Bydd Prifysgol Bangor yn adeiladu ar waith i ddatblygu deunyddiau newydd o blanhigion y gellir eu defnyddio i ddatblygu cynhyrchion arloesol.
Hefyd, bydd BEACON yn galluogi Prifysgol Abertawe i ganolbwyntio ar ddatblygu eu harbenigedd o ran defnyddio bacteria a ffyngau i dreulio, neu eplesu, deunydd planhigion yn y broses bioburo.
Mae BEACON yn anelu at gyfrannu i ddatblygu ynni adnewyddadwy a chynorthwyo mewn y newid i economi carbon isel gyda’r nod cyffredinol o leihau effaith newid yn yr hinsawdd.
Mae BEACON yn ceisio:
- Sefydlu cysylltiadau rhwng y gymuned fusnes ac academia yng Nghymru.
- Datblygu cynhyrchion a phrosesau newydd a fydd yn cefnogi twf economaidd.
- Creu swyddi sgiliau uchel ym maes biodechnoleg gwyrdd.
- Cefnogi buddsoddi o’r tu allan
- Hybu rhagoriaeth mewn gwyddoniaeth o Gymru.
Mae BEACON wedi cael ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Mae’n canolbwyntio ar y gwaith o ddatblygu bio-economic Gymraeg hyfyw drwy ehangu cadwyni cyflenwi gwyrdd.